PARADISOS

Paradise Regained: New Life for Old Gardens

Beth yw Paradwys?

La Madonna del roseto

Llain o dir wedi'i gau i mewn gan fur yw gardd, wedi'i chreu er mwyn annog bywyd newydd a'r mwynhad o feddwl amdani. Mae'n cynnwys tirwedd ble mae natur yn debyg i gelfyddyd a chelfyddyd yn debyg i natur: fel hyn mae'r rhai sy'n ei chreu yn ailddarganfod eu cyflwr gwreiddiol, yn un â'r bydysawd.

Mae syniad a delwedd yr ardd yn amlygu breuddwyd hynaf a mwyaf pryfoclyd dynolryw: sut i ail-greu'r "groth wreiddiol", man ble mae nodded, hapusrwydd a pherffeithrwydd, sy'n lloches i brydferthwch oherwydd ynddi fe dyf popeth mewn cytgord, yn yr uniad cosmig o ddaear ac awyr, yn cael ei faethu gan ofal dyn.

Drwy holl wledydd Môr y Canoldir, adwaenid yr ardd fel "paradwys" (o'r hen Roeg para- deisos a'r Afesteg pairi-daeza: man wedi'i gau amdano gan fur). Ym mhob diwylliant mae'r ddelwedd o baradwys yn nodweddu dechrau a diwedd amser.

Mae llawer o'r gerddi hanesyddol ledled Ewrop wedi tyfu'n wyllt ac wedi mynd yn angof yn awr, a'n dyletswydd amlwg yw eu hachub ac ail-greu bywyd newydd. Rhaid i baradwys beidio â bod ond yn ddelwedd o hiraeth a pharchedigrwydd, ond hefyd yn arwydd ac yn arweiniad ar gyfer prosiectau sy'n ymgorffori gwobrwyon cyffyrddadwy a gobaith.

Prof. Donatella Mazzoleni



English | Cymraeg | Italiano | Português